
Gwellhewch effeithlonrydd ynni eich cartref
Mae Asiantaeth Ynni’r Mers ac Asiantaeth Ynni Seren Wae hwy ill dwy’n elusennau â phrofiad maith o weithio mewn effeithlonrwydd ynni a chynaliadwyedd.
Gan hynny rydym mewn sefyllfa unigryw i gynnig cyngor annibynnol, diduedd, seiliedig ar werthoedd ynghylch sut mae ôl-osod eich cartref.
Ar gyfer perchnogion cartrefi
Dechreuwch eich taith ôl-osod

Gallwn oll fod â chartrefi iachach, cynhesach, â biliau ynni llai, a llai o allyriadau carbon, trwy wneud ein cartrefi’n fwy ynni-effeithlon.
Dyma’r hyn a alwn ni yn ‘ôl-osod’. Er mwyn ôl-osod yn effeithiol, rhaid inni ddechrau efo’r adeiladwaith, sy’n golygu gwella gallu’r tŷ i ddal gafael ar wres.
Mae gwella drysau a ffenestri, trwsio lle bo angen, atal drafftiau, a chynyddu inswleiddiad yn fawr oll yn rhan o ôl-osod ‘adeiladwaith yn gyntaf’. Wedi gwneud hynny, gellir gosod atebion ynni carbon isel fel paneli ynni haul neu bympiau gwres.
Gall edrych fel cryn waith, ond mae buddion ôl-osod yn llawer, a gellir rhannu eich prosiect ôl-osod yn amryw gamau yn hytrach na gwneud y cyfan ar unwaith. Ac y mae cymorth ar gael pob cam o’r ffordd.
Cynlluniau ôl-osod
Mae cynlluniau ôl-osod tŷ cyfan ar gael yn Swydd Amwythig, Swydd Henffordd a Phowys ar hyn o bryd. Maen nhw wedi’u hariannu’n llawn ac yn unswydd ar gyfer eich cartref.
Gweminarau
Mae ein partner HGN yn trefnu cyfres o weminarau llawn gwybodaeth ar bynciau fel pympiau gwres, defnyddio deunyddiau naturiol ar gyfer ôl-osod, a chost a budd paneli ynni haul. Gallwch ymgofrestru ar gyfer y gweminarau rhad ac am ddim hyn ar Eventbrite, a gweld rhai blaenorol ar YouTube.
Cyngor Arbenigol
Mae tai yn bethau cymhleth, felly mae ôl-osod yn tueddu i godi llu o gwestiynau.
Edrychwch ar y cwestiynau pobloaidd isod.
Os nad yw’r cwestiynau poblogaidd yn ateb eich ymholiad, gyrrwch e-bost atom â holl fanylion eich eiddo a’ch cwestiwn. Os nad ydym ni’n gwybod yr ateb, yna gwyddwn am arbenigwr sydd. Mae’r gwasanaeth hwn yn rhad ac am ddim i chi, a byddwn yn ychwanegu’r cwestiynau mwyaf defnyddiol at y cwestiynau poblogaidd i eraill gael budd.
Drysau Gwyrdd
Mae achlysuron Drysau Gwyrddion yn ffordd dda o weld prosiectau ôl-osod sydd wedi’u cwblhau, a chyfarfod y preswylwyr er mwyn dysgu gan eu profiad. Cynhelir yr achlysuron nesaf yn y Mers yn Hydref 2023.
Achlysuron
Dewch i ddweud ‘Sut hwyl?’ wrthym yn achlysuron fel Gŵyl Werdd Llwydlo ar y 9fed o Orffennaf 2023
Cadwch mewn cysylltiad ar gyfer yr holl newyddion, achlysuron, gwybodaeth a chymorth diweddaraf yn y Mers.

Arolwg ac adroddiad am ddim i berchnogion tai
Gall perchnogion tai sydd eisiau dechrau eu taith ôl-osod ymgeisio nawr am gynllun ôl-osod annibynnol, unswydd, wedi’i ariannu’n llawn ar gyfer y tŷ cyfan er mwyn gwneud eu cartrefi yn fwy ynni-effeithlon. Rydym yn chwilio am amryw fathau o dai, ac mae’r arian yn gyfyngedig, felly ni fydd pob cais yn llwyddiannus.
Dwi’n byw yn
Ar gyfer gweithwyr proffesiynol
Ôl-osod at safon uchel iawn
Mae galw perchnogion tai am ôl-osod yn Swydd Amwythig, Swydd Henffordd a Phowys yn cynyddu’n gyflym, a chontractwyr yn brin.
Mae ôl-osod tŷ cyfan yn wasanaeth o werth mawr nad yw’n ddibynnol ar arian y Llywodraeth: mae marchnad ‘Yn Gallu Talu’ mawr. Ac wrth inni weithio tua Charbon Sero Net, nid yw’r galw ond am gynyddu.
Pa un ai’r ydych chi’n gweithio mewn ôl-osod eisoes, neu’n medru gweld y cyfle enfawr y mae’n ei roi i’ch busnes, gall Cartrefi Parod ar Gyfer y Dyfodol eich helpu i ôl-osod at safon uchel gyda hyfforddiant wedi’i ariannu, ffrwd o waith parod i’w ddechrau nawr, a chymorth a chyngor parhaus gan ein panel o beirianwyr strwythurol, penseiri, arbenigwyr adeiladu gwyrdd a gweithwyr treftadaeth proffesiynol.

Cwestiynau Poblogaidd
Ateb eich holl gwestiynau
C Beth yw ôl-osod ‘adeiladwaith yn gyntaf’?
Ôl-osod yw ychwanegu rhywbeth at eich cartref er mwyn gwella ei effeithlonrwydd ynni. Efallai mai’r lle gorau i ddechrau ag ôl-osod yw gwella gallu eich cartref i gadw gwres, fel ag i leihau eich galw am ynni. Yr ynni rhataf, glanaf yw ynni nad ydych yn ei ddefnyddio. Dyna pam y dylid delio ag adeiladwaith eich cartref (to, waliau, ffenestri, drysau a’r llawr) yn gyntaf, cyn gwneud pethau fel newid y system dwymo.
C Pam ddylwn i ôl-osod fy nghartref?
Mae llawer mantais i ôl-osod: cynyddu cyfforddusrwydd eich cartref (dim drafftiau trafferthus), lleihau eich biliau ynni a’ch allyriadau carbon, cynyddu gallu eich cartref i wrthsefyll newid yn yr hinsawdd, a hyd yn oed gwella eich iechyd lle bu trafferthion lleithder a llwydni. Mae data’r farchnad dai yn dechrau awgrymu bod cynyddu effeithlonrwydd ynni eich cartref yn cynyddu ei werth, a gellir disgwyl i’r duedd hon gyflymu wrth inni symud tua Sero Net. (dolen: https://www.gov.uk/government/news/energy-saving-measures-boost-house-prices )
C Hoffwn ôl-osod fy nghartref – ond lle mae dechrau?
Y lle gorau i ddechrau yw â chynllun ôl-osod ‘tŷ cyfan’ diduedd, unswydd ar gyfer eich cartref. Bydd y cynllun yn clustnodi’r prif bethau y mae’n rhaid eu gwneud, ym mha drefn i’w gwneud, a’r hyn fydd fwyaf gwerth yr arian. Efallai na fydd gan unigolyn sy’n gosod paneli ynni haul, er enghraifft, ddiddordeb mewn dim ond eich to, ac na fydd yn edrych ar eich llawr, eich waliau a’ch ffenestri. Nid rhaid cyflawni cynllun tŷ cyfan oll ar unwaith: gellir ei dorri’n gamau haws eu cyflawni. Gallai cynlluniau wedi’u hariannu’n llawn fod ar gael trwy Gartrefi Parod ar Gyfer y Dyfodol. Os ydych yn byw yn Swydd Amwythig gallwch ymgeisio yma https://mea.org.uk/our-work/future-ready-homes/ , neu os yn Swydd Henffordd neu Bowys, yma https://severnwye.org.uk/future-ready-homes/
A fydd arnaf angen Caniatâd Cynllunio, neu gymeradwyaeth Rheoliadau Adeiladu?
Ar gyfer Caniatâd Cynllunio, efallai y cewch yr ateb yma: https://www.planningportal.co.uk/permission/home-improvement
Os yw eich gwaith arfaethedig yn dod o dan y Rheoliadau Adeiladu, bydd arnoch angen cymeradwyaeth. Ar gyfer camau fel paneli ynni haul neu ffenestri newydd, bydd eich gosodwr yn gofalu am hyn ar eich rhan, fel arfer. Fel arall, dylai eich adeiladwr a/neu bensaer eich cynghori, neu gallwch gysylltu ag adran Rheoli Adeiladu eich cyngor lleol, neu arolygwr cymeradwy.
Lle caf hyd i osodwr / contractwr?
Allwn ni ddim argymell neb, ond gallwn eich rhoi mewn cysylltiad â phobl a chwmnïau y gallech ddymuno siarad â nhw, felly cysylltwch â ni [dolen]. Gwell siarad ag o leiaf 3 chwmni gwahanol, gofyn am weld enghreifftiau o’u gwaith, a siarad â chwsmeriaid blaenorol.
Ydi paneli ynni haul yn talu? Ydi hi’n talu i gael batri?
Mae paneli ynni haul yn cynhyrchu trydan glân, gwyrdd gartref lle’r ydych yn ei ddefnyddio, sy’n wych o beth. Mae pob un to yn wahanol, felly anodd cyffredinoli ynghylch a yw’r buddsoddiad yn ‘talu’. Bydd gosodwr paneli yn amcangyfrif faint o drydan mae’r paneli yn debyg o’i gynhyrchu mewn blwyddyn, ac at faint o arian y byddai hyn yn ei arbed i chi, yn nodweddiadol. Efallai nad ydych yn defnyddio llawer o drydan. Os ydych gartref yn ystod y dydd, neu os allwch ddefnyddio’r trydan wrth iddo gael ei gynhyrchu, efallai nad oes arnoch angen batri. Gellir dargyfeirio ynni haul i wefrio batri car trydan, neu dwymo dŵr yn eich silindr. Am ragor o wybodaeth, edrychwch ar ein gweminar gwych yma https://www.youtube.com/watch?v=sDfEGcDX64o
Dwi wedi clywed barn gymysg am bympiau gwres. Ydyn nhw’n dda i rywbeth?
Ydyn, ond cofiwch yr ‘adeiladwaith yn gyntaf’ uchod: yr ynni rhataf, glanaf yw’r ynni nad ydych yn ei ddefnyddio. Yn ddelfrydol, ewch ati i wella inswleiddiad eich cartref, ac atal drafftiau, cyn gosod pwmp gwres. Mae’r pympiau gwres yn gweithio’n fwyaf effeithlon ar dymheredd gweddol isel (50 gradd, yn nodweddiadol) a dylid caniatáu iddynt redeg yn barhaus yn hytrach na’u cynnau a’u diffodd. Ffordd gyflymaf dadgarboneiddio’ch cartref yw gosod pwmp gwres wedi’i yrru gan drydan gwyrdd yn lle eich bwyler nwy neu olew. Am ragor o wybodaeth, edrychwch ar ein gweminarau ynghylch pympiau gwres yma: https://hgnetwork.org/building-sense-events/
Pa ddeunyddiau sy’n addas ar gyfer fy nghartref, a lle caf afael arnynt?
Os adeiladwyd eich cartref cyn 1920 mae’n debyg y bydd y waliau’n soled, heb geudod. Mae angen i’r waliau hyn ‘anadlu’, felly gwell defnyddio deunyddiau sy’n caniatáu i anwedd dreiddio drwyddynt, fel inswleiddiad ffibr pren a phlaster calch, ac osgoi deunyddiau fel bwrdd PIR a phlastr gypswm safonol. Mae Tŷ Mawr (dolen https://www.lime.org.uk/ ) yn Aberhonddu yn gyflenwyr arbenigol deunyddiau adeiladu traddodiadol. Os oes gan eich cartref waliau ceudod cyfoes, yna mae’n debyg y gallwch ddefnyddio pa ddeunyddiau bynnag y dymunech, treiddiol gan anwedd ai peidio. Dylai eich pensaer neu’ch adeiladwr fedru eich cynghori, ond ymchwiliwch chi eich hun.
Pam mae sicrhau bod gan fy nghartref awyru da yn gywir?
Os gallwch wella inswleiddiad eich cartref ac atal drafftiau, rhaid i chi sicrhau digon o awyru, hefyd, er mwyn atal cynnydd lleithder rhag achosi problemau fel llwydni du. Mae drafftiau yn awyru’ch cartref, ond heb reolaeth; mae awyru mecanyddol tan reolaeth, fel ffannau echdynnu mewn ystafelloedd ymolchi a cheginau, neu systemau AMAG (awyru mecanyddol gydag adennill gwres) drwy’r tŷ cyfan, yn ddelfrydol.
Lle gallaf weld enghreifftiau go iawn o ôl-osod?
Mae achlysuron Cartrefi Gwyrddion Agored yn gyfle delfrydol ar gyfer hyn, ac i siarad â phreswylwyr sydd wedi ôl-osod eu cartrefi. Yn nodweddiadol, cynhelir yr achlysuron hyn ym Medi/Hydref, ond gallwch ddarllen am astudiaethau achos yma: https://www.greenopenhomes.net/
Faint mae ôl-osod yn ei gostio?
Gallwch ychwanegu at inswleiddiad eich llofft am ychydig gannoedd o bunnoedd, neu atal drafftiau trwy eich ffenestri a’ch drysau am lawer llai. Ond gall ôl-osod y tŷ cyfan fod yn fuddsoddiad drud, felly mae angen ei gynllunio’n gywir fel rhan o gynnal a chadw parhaus eich cartref. Ac nid rhaid ei wneud oll ar unwaith: gellir ei wneud fesul dipyn.
Sut talaf am fy ôl-osod? Oes yna gymhorthdal ar gael?
Gall pob perchen tŷ yng Nghymru a Lloegr ymgeisio (trwy eu gosodwr) am gymhorthdal o £5,000 tua chost pwmp gwres o’r awyr newydd trwy’r Cynllun Gwella Bwyleri https://www.gov.uk/apply-boiler-upgrade-scheme
Ni fyddwch yn gymwys ar gyfer y CGB os yw argymhellion eich Tystysgrif Perfformiad Ynni ar gyfer inswleiddio llofft neu wal geudod heb eu cyflawni.
Gellir cael cymhorthdal rhannol ar gyfer camau inswleiddio tan gynllun ECO+ newydd y Llywodraeth, sydd i ddechrau yn Ebrill 2023. Mae’r manylion eto i’w cadarnhau.
Ar gyfer rhai ar rai budd-daliadau neilltuol neu ag enillion bychain, efallai fod cymorth ar gael trwy brosiectau a ariennir gan y Llywodraeth. Gallwch ganfod rhagor ac ymgeisio yma https://www.shropshire.gov.uk/private-sector-housing/affordable-warmth-and-energy-efficiency/
Am Swydd Henffordd, ewch at https://keepherefordshirewarm.co.uk/
Ym Mhowys, efallai y gallwch gael benthyciad di-log ar gyfer gwella’ch cartref gan Fanc Cymunedol Robert Owen https://www.rocbf.co.uk/home_loans/
Mae banciau a chymdeithasau adeiladu yn cynnig rhagor a rhagor o gynhyrchion ‘morgais gwyrdd’ i annog perchnogion tai i ôl-osod eu cartrefi. Ceir rhestr ddefnyddiol yma https://www.greenfinanceinstitute.co.uk/programmes/ceeb/green-mortgages/
Cysylltwch
Cadwch mewn cysylltiad
Cadwch mewn cysylltiad ar gyfer newyddion, achlysuton, gwybodaeth a chymorth ôl-osod diweddaraf y Mers